Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (248) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.15
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 14.34
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Treth ar waredu i safleoedd tirlenwi
Dechreuodd yr eitem am 15.21
5 Trefn trafod y gwelliannau i'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.59
NDM5697 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) adrannau 2 - 25
b) adran 1
c) Teitl Hir
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar Setliad yr Heddlu 2015-16
Dechreuodd yr eitem am 16.00
NDM5699 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2015-2016 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2013-14
Dechreuodd yr eitem am 16.31
NDM5698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng Nghymru, ond yn gresynu at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan ac:
a) bod angen i ysgolion sydd ag arweinyddiaeth gref i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i safonau; a
b) bod angen i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar gyfer athrawon newydd a phrofiadol.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru y mae angen gwella pob un ond dau ohonynt.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â safonau da neu ragorol yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym mhob 10.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn cael anhawster o ran defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm mewn tua hanner ein hysgolion.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin gallu'r gweithlu addysg i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol, fel y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 6 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i arfer gorau.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM5698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.
2. Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng Nghymru, ond yn gresynu at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan ac:
a) bod angen i ysgolion sydd ag arweinyddiaeth gref i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i safonau; a
b) bod angen i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar gyfer athrawon newydd a phrofiadol.
3. Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru y mae angen gwella pob un ond dau ohonynt.
4. Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â safonau da neu ragorol yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym mhob 10.
5. Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn cael anhawster o ran defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm mewn tua hanner ein hysgolion..
6. Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin gallu'r gweithlu addysg i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol, fel y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.
7. Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i arfer gorau.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cyfnod pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.18
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 25 Chwefror 2015